Welsh translation of Worship: Leading & Preaching

Mae'r cwrs yma'n bennaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol Arweinwyr Addoli (1-4) a Phregethwyr Lleol (1-8), ond mae croeso i eraill ei ddefnyddio er mwyn dyfnhau eu ffydd (er mai dim ond myfyrwyr cofrestredig fydd yn gallu defnyddio’r Darllenydd Modiwl). Mae llawer o bobl wedi cyfrannu at y cwrs. Er ein bod wedi ceisio gwneud cyfiawnder i ehangder Methodistiaeth, mae pob modiwl yn adlewyrchu, fwy neu lai, safbwynt ei awdur(on).

Gofynion Newydd Portffolio

Mae'r Canllaw newydd ar gyfer Portffolios ar gael erbyn hyn. Mae'n amlinellu strwythur newydd, symlach ar gyfer portffolios. Anogir chi i ddefnyddio'r fformat newydd a symlach yma.

Ond os ydych chi eisoes yn gweithio ar bortffolio yn yr hen fformat, peidiwch â phoeni. Bydd portffolios yn yr hen fformat yn dal i gael eu derbyn tan fis Medi 2019. Os oes gennych unrhyw bryderon neu sylwadau, cysylltwch â ni ar localpreachers@methodistchurch.org.uk.

Fe gewch hyd i fersiynau .pdf o’r holl ddarnau yn y darllenydd modiwl yn yr adran hon.

I lawrlwytho a gweld y ffeiliau PDF yn y Darllenydd Modiwl, fe’ch cynghorir chi i gael y fersiwn diweddaraf o Adobe.


Uwchlwythwch eich portffolio fan hyn ar ôl i'ch tiwtor gwblhau cam cyntaf y marcio ac wedi asesu eich portffolio i ddangos bod y meini prawf wedi eu cwrdd.

Modiwl 5 yw'r modiwl cyntaf sy'n cael ei hastudio gan bregethwyr lleol dan hyfforddiant ar ôl cwblhau Portffolio A. Gellir astudio modiwlau 6, 7 ac 8 mewn unrhyw drefn ar ôl modiwl 5, er ein bod yn argymell eu gwneud yn eu trefn arferol.

Gellir astudio modiwlau 6, 7 ac 6 mewn unrhyw drefn ar ôl modiwl 5. Dylai 8.3 gael ei astudio olaf gan ei fod wedi'i gynllunio i gadarnhau eich dysgu ac i ymrwymo i'ch datblygiad parhaus.